Cymro ar restr fer Artes Mundi
- Cyhoeddwyd

Mae'r artist Bedwyr Williams o Wynedd yn un o saith sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Artes Mundi.
Dyma'r tro cyntaf ers 2006 i artist o Gymru gyrraedd y rhestr fer.
Dywedodd Mr Williams, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, ei fod o'n defnyddio ei brofiadau personol er mwyn datblygu ei gerfluniau.
Yn 2015 fe aeth y wobr i Theaster Gates, a addawodd rannu'r wobr o £40,000 gyda'r artistiaid eraill oedd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Fe fydd enillydd nesa gwobr Artes Mundi yn cael ei gyhoeddi yn Ionanwr 2017 yng Nghaerdydd yn dilyn arddangosfa bedwar mis fydd yn cynnwys gwaith gan yr artistiaid ar y rhestr fer.
Dywedodd Bedwyr Williams: "Mae'n wych bod yn rhan o arddangosfa ryngwladol fel Artes Mundi gydag artistiaid ffantastig ac mae'r ffaith ei fod yn digwydd yng Nghymru hyd yn oed yn well.
"Mae Artes Mundi yn dod ag artistiaid o weddill y byd i wlad ac i gymuned artistig yr wyf i yn hynod falch o fod yn artist ynddi."
ARTISTIAID AR Y RHESTR FER
BEDWYR WILLIAMS (CYMRU)
Mae Bedwyr Williams yn defnyddio amlgyfryngau, perfformio a thestun i edrych ar y gwrthdaro rhwng yr agweddau 'dwys difrifol' a 'dibwys' ar fywyd modern. Mae Williams yn adnabyddus am ddychanu'r berthynas rhwng yr artist a'r curadur drwy greu senarios gwirion iddyn nhw. Yn fwy diweddar, drwy fideo, mae wedi edrych ar themâu dystopia ac arwyddocâd dyn yn y bydysawd. Mae Williams ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Jarman Ffilm Llundain 2015 a chynrychiolodd Gymru yn 55ain Biennale Fenis gyda gwaith sydd hefyd yn sail i'w sioe bresennol yn Oriel Whitworth, Manceinion. Bydd ei waith diweddaraf, Century Egg, yn cael ei gyflwyno yn Sioe Gelf Prydain yn nes ymlaen eleni.
JOHN AKOMFRAH OBE (Y DU)
Ers 30 mlynedd, mae'r cyfarwyddwr, awdur a damcaniaethwr o Brydain a aned yn Ghana, John Akomfrah OBE yn amlygu cynhysgaeth yr Affricanwyr alltud yn Ewrop drwy ffilmiau sy'n ymchwilio i hanesion cymdeithas Ewrop sydd wedi'u hymylu. Un o aelodau sefydlu'r Black Audio Film Collective oedd Akomfrah ac mae'n adnabyddus am ffilmiau sy'n cynnwys The Nine Muses (2010), Speak Like a Child (1998) a The Stuart Hall Project (2013). Yn 2008 derbyniodd Akomfrah yr OBE am ei wasanaethau i'r diwydiant ffilm Prydeinig.
NEÏL BELOUFA (FFRAINC/ALGERIA)
Mae'r artist Ffrengig Algeraidd arobryn, Neïl Beloufa, yn defnyddio fideo ac amlgyfryngau i ymchwilio i a pharodïo rhyngweithio cymdeithasol drwy bynciau mor wahanol â bodau arallfydol, cenedlaetholdeb a therfysgaeth. Mae fideos Beloufa wedi cael eu dangos yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto, Yr Ŵyl Ffilm Ryngwladol, Rotterdam a Gŵyl Ffilm Llundain. Mae wedi ennill gwobrau pwysig yn y 54ain a 57ain Oberhausen Kurzfilmtage, Gwobr Dalent Audi 2011 a Gwobr Meurice 2013 am Gelf Gyfoes. Mae wedi cael ei enwebu ar gyfer Prix Marcel Duchamp 2015.
AMY FRANCESCHINI / FUTUREFARMERS (UDA/GWLAD BELG)
Grŵp o ymarferwyr celf a ffermio yw Futurefarmers a sefydlwyd ym 1995 gan yr artist Amy Franceschini sydd â'i chartref yng Nghaliffornia. Mae'r gydweithfa'n gweithio tuag at greu rhaglen amrywiol o gomisiynau cyhoeddus, arddangosfeydd a chyhoeddiadau, sy'n edrych ar systemau trafnidiaeth gyhoeddus, rhwydweithiau ffermio gwledig a pholisïau bwyd ac yn eu herio. Mae gwaith y gydweithfa wedi'i arddangos yn Amgueddfa Celf Americanaidd Whitney, MOMA, Solomon R. Guggenheim, Hall of Sciences Efrog Newydd a Chanolfan Gelf Walker. Derbyniodd Franceschini Gymrodoriaeth Guggenheim 2010 a Chymrodoriaeth Eureka 2006.
LAMIA JOREIGE (LIBANUS)
Artist a gwneuthurydd ffilmiau o Libanus yw Lamia Joreige sy'n defnyddio dogfennau archifol i fyfyrio ar y berthynas rhwng y cof 'unigol' a 'chyfunol'. Mae ei gwaith yn edrych ar drawma rhyfeloedd Libanus gyda phwyslais ar ei dinas enedigol, Beirut. Yn 2011, gwaith Joreige Objects of War, cyfres o dystiolaeth fideo ar Ryfel Cartref Libanus, oedd y darn mawr cyntaf o gelf o Libanus i gael ei brynu gan Tate Modern. Mae Joreige wedi arddangos yn rhyngwladol mewn sefydliadau sy'n cynnwys SFMOMA a Chanolfan Pompidou.
NÁSTIO MOSQUITO (ANGOLA)
Artist amlgyfrwng, perfformio a llafar yw Nástio Mosquito sydd yn aml yn ei roi ei hun yng nghanol y llwyfan yn ei waith, gan ddefnyddio dynwarediad i edrych ar wleidyddiaeth fyd-eang ac Affricanaidd. Mae'n arbennig o enwog am ei waith sy'n cyfeirio at Ryfel Cartref Angola, yn ogystal â gwleidyddiaeth rywiol, prynwriaeth ac arwyddion globaleiddio eraill. Mae Mosquito wedi perfformio mewn sefydliadau sy'n cynnwys Tate Modern a Chanolfan Gelfyddydau Walker. Yn 2014 cyhoeddwyd Mosquito yn gyd-enillydd 3edd Wobr Gelf Future Generation a'i enwi gan y Guardian fel un o Ten African Artists to Look Out For. Cafodd sylw eang ynghynt eleni am ei arddangosfa Daily Lovemaking yn IKON, Birmingham, darn a gafodd ei arddangos yn nes ymlaen yn 56ain Biennale Fenis.
HITO STEYERL (YR ALMAEN/JAPAN)
Mae gwaith fideo'r artist ac awdur Hito Steyerl sydd â'i chartref yn Merlin yn canolbwyntio ar y ffyrdd y mae ffeministiaeth a milwreiddio'n cael eu hamlygu yn y byd sydd ohoni mewn perthynas â'r toreth o ddelweddau a gwybodaeth a geir drwy lwyfannau cyfryngau digidol. Mae arddangosfeydd un-ddynes diweddar yn cynnwys Bank, Shanghai; Oriel KOW, Berlin; Artists Space, Efrog Newydd ac ICA, Llundain. Yn 2010 derbyniodd Steyerl Wobr New: Visions yng Ngŵyl Ffilmiau Dogfen Ryngwladol Copenhagen am ei ffilm, In Free Fall.