Rhybudd o law trwm
- Published
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai glaw trwm ddisgyn dros rannau helaeth o Gymru rhwng 08:00 ddydd Mercher a 09:00 fore dydd Iau.
Mae 'na rybudd melyn wedi ei gyhoeddi ar yr ardaloedd canlynol: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam, Ceredigion a Sir Benfro.
Y disgwyl yw y bydd glaw trwm yn ymledu o'r de tua'r gogledd yn ystod y dydd, ac fe allai'r gwyntoedd fod yn gryf mewn mannau, yn enwedig ar dir agored.
Fe ddywed y Swyddfa Dywydd hefyd y gallai llifogydd ddigwydd mewn mannau wrth i ddŵr lifo'n gyflym, ac fe allai hyn effeithio ar drafnidiaeth a theithio yn gyffredinol.