Arestio tri arall wedi marwolaeth mam 38 oed o Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
NadiaFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Nadia Jones o ardal Tremorfa yng Nghaerdydd wedi arestio tri o bobl eraill mewn cysylltiad a'i marwolaeth.

Cafodd corff Ms Jones, oedd yn 38 oed, ei ganfod yn ei fflat ym Meirion Place ddydd Gwener 11 Medi.

Mae dwy fenyw 41 a 26 oed a dyn 34 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae tri dyn arall gafodd eu harestio'n gynharach wedi eu rhyddhau ar fechniaeth yr heddlu wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae swyddogion cyswllt teuluol yn dal i roi cefnogaeth i deulu Nadia Jones.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu yn ddi-enw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1500334982.