Diffyg trafod ffoaduriaid yn 'siom' medd gwrthbleidiau

  • Cyhoeddwyd
FfoaduriaidFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Mae David Cameron wedi dweud y bydd 20,000 o ffoaduriaid yn cael dod i Brydain

Mae angen cyfle i Aelodau Cynulliad drafod argyfwng y ffoaduriaid yn y siambr yn ôl Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr.

Dywedodd dirprwy arweinydd Plaid, Elin Jones bod ei phlaid "wedi siomi ac wedi synnu" na fydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i gwestiwn brys.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, mae ffoaduriaid angen "pecyn sylweddol o integreiddio" yn hytrach na "symbol" o weithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Da ni wedi bod ymhell o fod yn ddistaw ar y mater. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir fod Cymru'n barod i chwarae ei rhan a bod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig wrth ymateb i'r argyfwng ffoaduriaid.

"Dyna pam y cyhoeddon ni'r wythnos ddiwetha' y byddai 'na uwchgynhadledd Gymreig ddydd Iau, gan ddod â'r prif asiantaethau a gwasanaethau at ei gilydd i ddatblygu ymateb cenedlaethol i'r argyfwng.

"Y gynhadledd ddydd Iau fydd cychwyn ymateb y llywodraeth, fydd yn parhau drwy'r hydref. Bydd y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiynau ar y pwnc pwysig hwn yn ei sesiwn holi heddiw."

Cynhadledd

Bydd aelodau yn cyfarfod yn y Senedd am y tro cyntaf ers gwyliau'r haf ddydd Mawrth.

Yn dilyn sesiwn holi'r Prif Weinidog, bydd sawl gweinidog yn gwneud datganiadau, ond ni fydd unrhyw ddatganiad ar sefyllfa'r ffoaduriaid.

Fe wnaeth hynny arwain at alwadau'r gwrthbleidiau.

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cynnal cynhadledd i drafod y sefyllfa ddydd Iau.

Mae elusennau a chynghorau lleol wedi eu gwahodd i'r cyfarfod, i gydlynu ymateb Cymreig.

'Rôl bwysig'

Dywedodd llefarydd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddistaw ar y mater.

"Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir bod Cymru yn barod i wneud ein rhan a bod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig wrth ymateb i argyfwng y ffoaduriaid," meddai.

Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r gynhadledd ddydd Iau yn "cydlynu ymateb" fydd dan arweinyddiaeth y llywodraeth, ac yn "parhau drwy'r hydref".

Dywedodd David Cameron y byddai'r DU yn derbyn hyd at 20,000 o ffoaduriaid o wersylloedd o amgylch Syria, gan roi blaenoriaeth i blant.

Yn ôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru, fe all Cymru dderbyn tua 1,600 o bobl o Syria, ond mae cynghorau wedi dweud bod angen cymorth ariannol i ddelio gyda'r costau ychwanegol.