Cau purfa olew Aberdaugleddau: Gobaith swyddi newydd

  • Cyhoeddwyd
murco
Disgrifiad o’r llun,
Caeodd y burfa olew yn 2014

Ar ôl i burfa olew Murco yn Aberdaugleddau gau, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio diogelu 170 o swyddi, creu 62 o swyddi a dysgu sgiliau newydd i dros 200 o bobl fel rhan o raglen Sgiliau Hyblyg.

Yn wreiddiol, cafodd rhaglen Trawsnewid Sgiliau Murco ei lansio yn sgil cau'r burfa yn 2014, i helpu contractwyr Murco a busnesau'r gadwyn gyflenwi.

Y bwriad oedd helpu busnesau Sir Benfro i ennill cytundebau mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy, olew a nwy, a sicrhau eu bod yn gallu cystadlu am fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru.

Felly roedd angen helpu cyflogwyr i sicrhau bod amrywiaeth sgiliau ymhlith eu gweithwyr fel bod modd manteisio ar gyfleoedd, marchnadoedd a'r sectorau newydd.

Cafodd cyflogwyr eu gwahodd i wneud cais am arian rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2015, ynghyd â chymorth gan gynghorydd datblygu'r gweithlu.

Byddai'r cynghorydd yn gallu nodi anghenion hyfforddi yn ogystal ag anghenion datblygu'r busnes er mwyn llunio cynllun hyfforddi pwrpasol.

£130,000

Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfanswm o £130,000 i helpu dros 200 o bobl i ddysgu sgiliau newydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart: "Roedd cau purfa Murco yn ergyd enfawr, nid yn unig i'r rheini oedd yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol, ond hefyd i'r llu o gwmnïau lleol a oedd yn rhan o'r gadwyn gyflenwi.

"Mae Rhaglen Trawsnewid Sgiliau Murco wedi bod yn rhan anhepgor o'n hymdrechion i helpu pobl i gael gwaith ac i adfer yr economi leol."

Dywedodd Jeff Harries, Rheolwr Gyfarwyddwr Mainport Engineering, fod manteision y cynllun wedi bod yn "drawiadol iawn o'r dechrau i'r diwedd".

"Mae'r broses wedi golygu ein bod yn gweld y gwahanol ffyrdd ymlaen ... er mwyn inni allu cynnig hyfforddiant ychwanegol i weithwyr allweddol ein cwmni. Heb y cyfle hwn a'r help a gafwyd gan Raglen Trawsnewid Sgiliau Murco, ni fydden ni wedi gallu cynnig yr hyfforddiant hwn."