Cyfarfod cyntaf Jeremy Corbyn a Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd

Fe fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn cyfarfod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones am y tro cyntaf ddydd Mercher, i drafod ffyrdd y gallant weithio gyda'i gilydd.
Mae Mr Jones wedi canmol Mr Corbyn am ei fuddugoliaeth "anhygoel", ar ôl dweud yn ystod yr ymgyrch y byddai'r gwleidydd asgell chwith yn "ddewis anarferol" i arwain y blaid.
Bydd etholiad y Cynulliad yn 2016 yn cael ei weld fel prawf o boblogrwydd Mr Corbyn.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y bydd yr etholiad yn "fwy arwyddocaol" yn sgil dewis yr arweinydd newydd.
Mae cefnogwyr Mr Corbyn, yn cynnwys y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, wedi galw am weithio'n agosach rhwng y pleidiau yng Nghymru a San Steffan.
Mr Corbyn oedd yr unig un o'r pedwar ymgeisydd am yr arweinyddiaeth i beidio â chyfarfod Carwyn Jones yn ystod yr ymgyrch.
Mae disgwyl iddo gwrdd â Mr Jones am y tro cyntaf yn Llundain ddydd Mercher, yn dilyn ei sesiwn gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin yn holi'r David Cameron.
Dadansoddiad Gohebydd Seneddol BBC Cymru, James Williams
Mae bob diwrnod yn un prysur pan yr ydych chi'n arweinydd yr wrthblaid a fydd na ddim gwahaniaeth heddiw.
Am y tro cyntaf ers ei fuddugoliaeth syfrdanol ddydd Sadwrn, fe fydd Jeremy Corbyn yn wynebu David Cameron ar lawr Tŷ'r Cyffredin ar gyfer sesiwn o gwestiynau i'r prif weinidog, cyn cwrdd â Carwyn Jones - hefyd am y tro cyntaf.
Fe gwrddodd prif weinidog Cymru a'r tri ymgeisydd arall yn ras arweinyddiaeth Llafur yn ystod yr ymgyrch ond nid Mr Corbyn, er gwaethaf iddo ymweld â Chymru.
Er nad oedd e wedi datgan cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd yn swyddogol, fe ddisgrifiodd Mr Jones yr asgellwr chwith fel "dewis anarferol".
Ond gydag etholiadau'r Cynulliad ar y gorwel fis Mai, bydd yn rhaid iddo weithio nawr gyda'r "dewis anarferol" yna.
Achos er bod Mr Jones wedi mynnu dro ar ôl tro bod angen mwy o ryddid ar y Blaid Lafur yng Nghymru i ddatblygu hunaniaeth bendant ac mai fe a'i dìm fydd yn arwain yr ymgyrch Cymreig y flwyddyn nesaf, mae'n anochel y bydd perfformiad Jeremy Corbyn a'r blaid yn genedlaethol hefyd yn dylanwadu ar y canlyniad.
Yn ystod blynyddoedd datganoli, mae Llafur Cymru o hyd wedi bod i'r chwith o'r blaid yn ganolog.
Felly, mae rhai'n darogan y byddai gwleidyddiaeth sosialaidd Jeremy Corbyn yn atgyfnerthu'r brand Cymreig.
Ond fe gollodd Llafur seddi i'r Ceidwadwyr yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol, meddai eraill - sut mae cynnig mwy asgell chwith yn mynd i adennill y cefnogwyr hynny?
Os mai ennill neu golli tir fydd Llafur fis Mai nesaf, fydd y canlyniad yn adlewyrchu ar y ddau arweinydd.