Y cyhoedd yn rhan o gynllun i roi hen fapiau ar y we

  • Cyhoeddwyd
Tithe mapFfynhonnell y llun, cynefin.wales
Disgrifiad o’r llun,
Map o ardal Llanelwy o 1845

Mae pobl yn Sir y Fflint wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect i roi mapiau o'r 19eg Ganrif ar-lein.

Mae Prosiect Cynefin yn cynhyrchu delweddau digidol o fapiau degwm, oedd yn cofnodi yn wreiddiol enwau perchnogion a deiliaid tir yn y plwyfi.

Mae angen helpu i drawsgrifio'r testun sydd ar y mapiau a'i gysylltu â mapiau modern.

Fe fydd Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarlâg, Glannau Dyfrdwy, yn cynnal gweithdai ar 16 Medi i ddangos i'r cyhoedd sut y gallant gymryd rhan.

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg ar Gyngor Sir y Fflint, Chris Bithell,: "Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion Sir y Fflint gymryd rhan mewn prosiect cyffrous sy'n dod â'n hanes yn fyw."

Ffynhonnell y llun, cynefin.wales
Disgrifiad o’r llun,
Hen fap o Sir y Flint