Y Comisiynydd Plant i ddechrau ymgyrch newydd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland yn lansio ymgyrch genedlaethol - 'Beth Nesa'?'- er mwyn blaenoriaethu'i gwaith.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae'r Comisiynydd yn gobeithio gwrando ar blant a phobl ifanc a'r sawl sydd yn gofalu amdanynt neu'n gweithio gyda nhw, er mwyn gwella dyfodol pobl Cymru gyfan.
Rôl swydd y Comisiynydd Plant yw siarad ar ran plant a phobl ifanc, ac mae'r ymgyrch newydd yn gobeithio darganfod mwy am fywydau plant a phobl ifanc Cymru.
Fe fydd yr arolwg yn helpu'r Comisiynydd i benderfynu ar ei phrif feysydd gwaith.
Dwedodd Sally Holland ei bod yn "fraint" cael bod yn Gomisiynydd Plant Cymru, a'i bod yn "teimlo dyletswydd i siarad ar ran a gyda phlant a phobl ifanc Cymru".
Defnyddio dylanwad
Eglurodd ei bod yn gobeithio defnyddio ei dylanwad yn effeithiol ac yn hyderus, er mwyn adlewyrchu eu safbwyntiau a'u hanghenion.
"Mae 'Beth Nesa'?' yn gyfle i blant a phobl ifanc, yn ogystal ag oedolion sydd â diddordeb yn y maes, i gael dweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth go iawn i'r ffordd y bydda i'n ymwneud a'm gwaith. Rwy'n awyddus iddyn nhw fy helpu i osod fy mlaenoriaethau ac i ddal fi'n atebol ar fy addewidion."
"Fel Comisiynydd, fy swydd i yw bod yn llais cryf ar ran holl blant a phobl ifanc Cymru. Mae yna rai grwpiau o blant yn arbennig sydd angen pencampwr, ac mae'n bwysig i ni fedru taflu goleuni ar natur eu bywydau o ddydd i ddydd.
"Mae hyn yn cynnwys plant mewn gofal, plant gydag anableddau, plant mewn tlodi a phlant sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rwy'n gobeithio bod plant o bob cefndir a'r oedolion sydd am wella'u bywydau yn cyfrannu at osod yr agenda."
Bydd yr arolwg, sydd ar gael mewn sawl fformat, ar gael ar wefan y Comisiynydd, ac mae ar agor tan 1 Tachwedd.
Fe fydd adroddiad, wedi ei seilio ar yr arolwg, ar gael yn 2016, ynghyd a chynlluniau manwl o waith y Comisiynydd ar gyfer y 3 mlynedd nesaf.