Budd-daliadau: Anghytuno Smith a Corbyn

  • Cyhoeddwyd
Owen Smith Jeremy Corbyn

Mae llefarydd Llafur ar waith a phensiynau ac AS Pontypridd, Owen Smith, wedi gwrthddweud arweinydd newydd y blaid ar y mater o roi uchafswm ar fudd-daliadau y gall rhywun eu hawlio.

Dywedodd Jeremy Corbyn wrth gynhadledd y TUC ddydd Mawrth ei fod eisiau "cael gwared ar yr holl syniad o uchafswm budd-daliadau".

Ond dywedodd Mr Smith wrth raglen Newsnight bod y blaid yn "glir iawn" eu bod yn gwrthwynebu cynllun llywodraeth y DU i leihau'r uchafswm budd-daliadau o £26,000 i £23,000.

Dywedodd bod Llafur o blaid "terfynau ar beth all unigolion ei hawlio".

Ar ôl cael gwybod bod Mr Corbyn wedi dweud bod angen cael gwared ar y terfyn yn gyfan gwbl, dywedodd: "Na, ein polisi yw i adolygu'r agwedd yna, rydyn ni'n glir iawn.

"Rydyn ni o blaid lleihad cyffredinol yn faint o arian sy'n cael ei wario ar fudd-daliadau yn y wlad yma ac o blaid terfynau ar faint all deuluoedd unigol ei hawlio.

"Oherwydd dydw i ddim yn meddwl y byddai'r wlad yn cefnogi ni petawn ni'n dweud ein bod ni o blaid gwariant diymatal."

Yng nghynhadledd y TUC, dywedodd Mr Corbyn ei fod wedi trafod newidiadau i'r Mesur Lles gydag Owen Smith, ac o'i safbwynt o roedd y newidiadau gyfystyr a "cael gwared ar yr holl syniad o uchafswm budd-daliadau yn gyfan gwbl".