Cynnydd o 4,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
swyddi

Roedd cynnydd o 4,000 yn nifer y diwaith yng Nghymru rhwng mis Mai a Gorffennaf yn ôl y ffigyrau diweddara gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd 99,000 yn ddiwaith yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y wlad wedi gweld y cynnydd mwya ym Mhrydain yng nghraddfa cyflogaeth dros y flwyddyn ddiwetha.

"Mae'r canlyniadau yma'n dangos fod cyflwr economi Cymru'n gwella a bod ein polisiau i greu swyddi yn dwyn ffrwyth", meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

Yn ystod y 12 mis diwetha, mae 58,000 o bobl Cymru wedi dod o hyd i waith - gyda 1.42 miliwn o bobl mewn cyflogaeth.