Methiannau yng nghynllun iaith Bwrdd Iechyd

  • Cyhoeddwyd
iaith
Disgrifiad o’r llun,
Y Comisiynydd Iaith, Meri Huws.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi methu â chydymffurfio â dau gymal yn ei Gynllun Iaith.

Fe gafodd yr ymchwiliad ei gynnal yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd fod y Bwrdd Iechyd wedi anfon gohebiaeth uniaith Saesneg ati ynghylch apwyntiad yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Ar ôl gohebu â'r Bwrdd Iechyd, dywedodd y Comisiynydd, Meri Huws, fod yr amheuon nad oedd cynllun iaith y sefydliad yn cael ei weithredu wedi eu cryfhau, a phenderfynodd gynnal ymchwiliad statudol gan ddefnyddio pwerau Adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chydymffurfio â dau gymal yn ei Gynllun Iaith.

Daw i'r casgliadau ar y sail nad yw'r Bwrdd Iechyd yn anfon gohebiaeth ddwyieithog pan nad yw dewis iaith y claf yn hysbys ac am nad yw'n anfon llythyrau dwyieithog safonol at gleifion fel mater o drefn.

Tri Argymhelliad

Mae'r Comisiynydd yn gwneud tri argymhelliad i'r Bwrdd Iechyd er mwyn adfer y sefyllfa a'i alluogi i gydymffurfio â'i Gynllun Iaith yn y dyfodol. Mae a wnelo'r argymhellion hynny â gosod trefniadau ar droed er mwyn:

  • Anfon gohebiaeth i gleifion neu unigolion eraill yn eu dewis iaith pan fo'r dewis hwnnw'n hysbys iddo o ganlyniad i sgwrs, gyfarfod neu ohebiaeth arall;
  • Anfon gohebiaeth ddwyieithog pan na fo dewis iaith y derbynnydd yn glir;
  • Anfon gohebiaeth gyffredinol a ddechreuir gan ganddo, megis llythyrau apwyntiad safonol, yn ddwyieithog.

Mae amserlen benodol wedi ei gosod ar gyfer gweithredu'r argymhellion hyn. Bydd swyddogion y Comisiynydd yn monitro sut caiff yr argymhellion eu cyflawni.

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Julie Cassley, dirprwy gyfarwyddwr y gweithlu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

"Rydym yn cydnabod nad ydym wedi gallu darparu yn drylwyr gohebiaeth ddwyieithog i'n cleifion ac rydym yn y broses o ddiweddaru ein systemau i sicrhau ein bod yn medru darparu deunydd mwy eang yn y Gymraeg.

"Rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithredu ein Cynllun Iaith Gymraeg ac yn edrych ymlaen at weithio gyda swyddfa'r Comisiynydd i weithredu ei argymhellion."