Arolwg: Hanner athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn
- Cyhoeddwyd

Mae arolwg gafodd ei gynnal gan undeb athrawon yr NUT yn awgrymu bod bron i hanner athrawon Cymru yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn y ddwy flynedd nesaf.
Cafodd dros 400 o athrawon eu holi fel rhan o'r arolwg.
Llwyth gwaith, y gofynion gan reolwyr a'r angen am gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd personol oedd rhai o'r rhesymau a roddwyd gan athrawon dros fod eisiau gadael.
Ond cododd nifer o athrawon bryderon hefyd am eu hiechyd meddwl a chorfforol fel rhesymau dros adael.
Yn ôl yr arolwg, mae 85% o athrawon Cymru o'r farn fod morâl wedi gwaethygu dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
Gofynnwyd y cwestiwn: 'A ydych chi'n meddwl gadael y proffesiwn dysgu o fewn y 2 flynedd nesaf?'
O'r 452 o athrawon oedd yn rhan yn yr arolwg, dwedodd 210 eu bod yn bwriadu gadael, tra bo 242 wedi dweud nad oedden nhw'n bwriadu rhoi'r gorau i'w gwaith.
Her cyllidebau
Mae'r NUT hefyd yn dweud fod yr arolwg yn dangos yr her sy'n wynebu ysgolion wrth ddygymod â thoriadau i'w cyllidebau.
Yn ôl athrawon mae nifer y staff cynorthwyol sydd ar gael wedi lleihau, mae llai o gyrsiau ar gael ar y cwricwlwm ac mae lleihad yn nifer y gweithgareddau fel tripiau ysgol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod fod y gyfundrefn addysg yn wynebu her.
Dyna pam, meddai, fod cefnogaeth i athrawon "wrth galon y newidiadau rydym wedi eu gwneud."
"Rydym am weithio gydag athrawon er mwyn cyflwyno gwelliannau tra ar yr un pryd yn eu cefnogi yn eu gwaith a hefyd sicrhau bod y parch tuag atynt yn codi," meddai'r llefarydd.
"Rydym hefyd am sicrhau nad ydym yn gorlwytho athrawon, a dyna pam fod yna nifer o reolau statudol mewn grym sydd â'r bwriad o sicrhau fod cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cymdeithasol athrawon."