Canslo sioe Gwydion yng Nghaerdydd?
- Cyhoeddwyd

Mae cynhyrchwyr sioe gerdd Gwydion Cwmni Theatr Maldwyn yn dweud y gallen nhw orfod canslo perfformiad o'r sioe yng Nghaerdydd oherwydd gwerthiant tocynnau isel.
Mae'r sioe i fod i gael ei pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm ar 11 Hydref.
Ond hyd at ddydd Llun, dim ond 150 o docynnau oedd wedi eu gwerthu, ac mae angen i'r cwmni werthu o leiaf 700 i dalu costau llwyfannu'r sioe.
Fe werthwyd pob tocyn ar gyfer perfformiad cynta'r sioe ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni o fewn tri diwrnod iddyn nhw fynd ar werth.
Mae gan Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm gyfanswm o 1,897 o seddi, o gymharu â 2,500 o seddi yn y Pafiliwn ym Meifod.
Methu gwerthu yn lleol
Methodd y sioe â gwerthu pob tocyn ar gyfer eu perfformiadau yn Theatr Hafren, Y Drenewydd (sy'n dal 550 o bobl) dros y penwythnos, hefyd.
Mae'r sioe, sydd wedi ei chreu gan Penri Roberts, Gareth Glyn a'r diweddar Derec Williams, wedi ei selio ar un o geinciau enwocaf y Mabinogi.
Dywedodd Penri Roberts, Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Maldwyn wrth BBC Cymru Fyw: "Wrth reswm, 'da ni fel cwmni wedi bod yn siomedig iawn efo'r gwerthiant, ond mi fydd yn rhaid i ni wneud y penderfyniad i ganslo neu ddim ddydd Gwener.
"Mae'n debyg fod 'na sawl rheswm pam nad oes cymaint o docynnau wedi gwerthu, i ddechrau mae 'na gêm rygbi fawr ymlaen yr un diwrnod, rhwng Iwerddon a Ffrainc, ac felly pob 'stafell ymhob gwesty yng Nghaerdydd wedi gwerthu, felly os oedd rhywun yn bwriadu teithio i Gaerdydd i weld y sioe, does ganddyn nhw nunlle i aros dros nos."
"Mae'n costio £15,000 i lwyfannu'r sioe, ac os 'na werthwn ni o leiaf 700 o docynnau, yna ryda ni'n wynebu'r golled ariannol ein hunain."
'Darlledu'r sioe heb helpu'
Yn ôl Del Thomas o Theatr Hafren, dyw hi ddim yn help fod y sioe wedi ei darlledu ar S4C ar noson agoriadol yr Eisteddfod.
"Efallai fod' na bobl allan yna fysa wedi dod i weld y sioe ar ei thaith, ond gan ei bod wedi cael ei darlledu ar S4C, eu bod rwan wedi ei gweld, ac ddim am fentro i'r theatr.
"Mae'r ffaith fod 2,500 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y perfformiad ym Meifod, sydd 12 milltir lawr y ffordd, hefyd yn bownd o fod wedi cael effaith ar werthiant tocynnau'r daith.
"Mae cymaint â hynny yn swm aruthrol ar gyfer unrhyw sioe Gymraeg, ac mae peryg fod pawb bron oedd eisiau ei gweld, wedi cael y cyfle yn yr Eisteddfod."
Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Creadigol ac Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Roedd Gwydion yn archeb hwyr ar gyfer ein rhaglen theatr, ac er nad yw'n gyflwyniad gan y Ganolfan, rydyn ni'n gweithio'n agos ac yn rhoi cymorth i gynhyrchwyr Gwydion."