Achos llys cyflenwad heroin yn cychwyn
- Cyhoeddwyd

Mae achos llys sy'n gysylltiedig â'r darganfyddiad mwyaf o heroin yn hanes Cymru wedi dechrau yn Llys y Goron Caerdydd.
Fe glywodd y llys sut y daethpwyd o hyd i bron i bedwar kilo o'r cyffur, mewn tacsi yng Nghasnewydd ar ôl i'r cerbyd gael ei stopio gan yr heddlu cudd.
Mae chwech o bobl, gan gynnwys pedwar o ddynion a dynes o Gymru yn gwadu cynllwynio i gyflenwi'r cyffur dosbarth A.
Clywodd y llys sut oedd arian yn cael ei drosglwyddo mewn lleoliadau ar draws Casnewydd, gan gynnwys maes parcio archfarchnad.
Mae Shazia Ahmad a Wasim Ali o Gasnewydd, Umar Arif, Umar Butt a Khalid Yassen o Gaerdydd a Zawed Malik o Sir Gaer i gyd yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Tacsi
Clywodd y llys hefyd, fod y tacsi, a oedd yn cael ei yrru yng Nghasnewydd, gan Wasim Ali wedi stopio tu allan i Dŷ Tredegar gan yr heddlu, cyn iddynt ddod o hyd i'r heroin mewn bag y tu mewn i'r cerbyd.
Mae'r rheithgor wedi clywed hefyd fod yr heddlu wedi darganfod bron i 40kg o heroin fel rhan o'r ymgyrch rhwng 2013 a 2014.
Dyma'r cyfanswm mwyaf o heroin i gael ei ddarganfod gan yr heddlu yng Nghymru.
Yn ddiweddarach yn yr ymgyrch, fe ddaethpwyd o hyd i £ 38,240 mewn bwndeli o arian parod.
Mae disgwyl i'r achos bara am hyd at saith wythnos.