Cynghorwyr yn pleidleisio dros greu bas-data o faw cŵn
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yn Sir y Fflint wedi pleidleisio o blaid sefydlu grŵp i ystyried sefydlu bas data o DNA cŵn y sir.
Byddai'r cofnod gwirfoddol cael ei ddefnyddio i adnabod pa berchnogion sy'n gadael i'w hanifeiliaid faeddu mewn mannau cyhoeddus.
Y ddirwy i unrhyw un fyddai'n cael ei ddal yw £75. Fel rhan o'r cynllun, byddai perchnogion cŵn yn talu £30 i fod yn rhan o'r bas data, tra bod perchnogion fyddai'n gwrthod ymuno'n wynebu trwyddedau drytach.
Fe ddaw'r penderfyniad yn sgil cyfarfod yn neuadd y sir yn Yr Wyddgrug dydd Mercher, wedi i'r Cynghorydd Arnold Woolley gynnig y syniad.
Fe all y gwaith o brofi baw ci ar gyfer y DNA gael ei gynnal gan gwmni Streetkleen sydd wedi eu lleoli yn Sir y Fflint. Mae'r cwmni yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddara o America i brofi'r lympiau o faw.
Mae cynlluniau tebyg wedi gweld lleihad o 90% mewn cŵn yn baeddu mewn ardaloedd eraill.