Atgyfodi Eisteddfod: Gweledigaeth Merêd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd un o Eisteddfodau bach Ceredigion yn cael ei hatyfodi'r penwythnos yma ar ôl 50 mlynedd.
Gweledigaeth y diweddar Dr Meredydd Evans oedd atgyfodi Eisteddfod Gadeiriol Cwm Ystwyth, a Dr Evans oedd llywydd anrhydeddus yr eisteddfod tan ei farwolaeth ddechrau'r flwyddyn.
Mae teulu Merêd wedi cyfrannu gwobr er cof amdano yn y gystadleuaeth alaw werin, lle mae cystadleuwyr yn cael cyfle i berfformio unrhyw un o gyhoeddiadau Merêd a'i briod, Phyllis Kinney.
Dywedodd un o drefnwyr yr eisteddfod, Brython Davies wrth Raglen Dylan Jones ar BBC Cymru mai yn 1961 y cafodd yr eisteddfod ddiwethaf ei chynnal yng Nghwm Ystwyth.
"Y diweddar Dr Meredydd Evans, Merêd, oedd wedi gosod testun cysadleuaeth y Gadair - ac mae 11 wedi cystadlu." Meddai Mr Davies
"Mae'r gadair wedi cael ei gwneud gan ddefnyddio llechen o Flaenau Ffestiniog, ardal enedigol Merêd, ac mae 'na blwm ynddi i gynrychioli gwaith mwyn Cwm Ystwyth.
"Mae'r eisteddfod wedi dod â phobol y pentref at ei gilydd. Mae merch o'r enw Joanna Morgan sy'n wreiddiol o Lundain ond wedi ymgartrefu yn yr ardal a dysgu Cymraeg wedi dechrau côr yn y pentref."
Mae Brython Davies ei hun wedi dychwelyd i fyw yn yr ardal, ac mae wedi hyfforddi parti cyd-adrodd fydd yn cystadlu yn yr eisteddfod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2015