Saith Diwrnod
- Cyhoeddwyd

Mae'n hawdd gweld hwn fel ail hanner adolygiad yr wythnos diwethaf o'r Wasg Gymraeg.
Am wn i nad ydy hi'n anodd, wrth adolygu'r wasg, i beidio adlewyrchu'r hyn sydd yn y wasg, ac wrth edrych ar wythnos gyfan o drin a thrafod Corbyn, ychwanegu rhagor fyth o eiriau at y pentwr sydd eisoes wedi ei greu.
Proffwydo buddugoliaeth Corbyn, a hynny ar eu gwaethaf eu hunain, oedd rhai o'r sylwebwyr yr wythnos diwethaf. Erbyn hyn mae pob sylwebydd, bach a mawr, yn trin a thrafod, Jeremy … sylwch ar y newid enw.
Diwylliant San Steffan
Un o'r pethau dwi wedi ei fwynhau fwyaf am yr holl broses ydy ei fod o wedi rhoi cip i ni ar ddiwylliant San Steffan, gydag Elfyn Llwyd a Hywel Williams yn hapus iawn dros eu cyfaill bwrdd coffi. Tybed, o ran chwilfrydedd pur, pwy arall sydd sy'n rhannu paned foreol efo nhw?
A dyna i chi ragrith gwleidyddol gwallgof Huw Iranca Davies, un o'r Aelodau Seneddol enwebodd Jeremy, yn dweud nad yw'n difaru gwneud hynny, er na bleidleisiodd o drosto fo. Oes rhywun, heblaw fi yn gweld hynny braidd yn rhyfedd?
Ond Huw Prys Jones yn ei flog o i Golwg 360 yn taro'r hoelen ar ei phen yn fy marn i. Yn benodol mae o'n trin a thrafod ymateb y wasg i wrthodiad Corbyn i ganu anthem Lloegr. Mae'n weriniaethwr ac yn anffyddiwr. O'r pedwar gair yn nheitl yr anthem un ydy 'Duw' a'r llall ydy'r 'Frenhines'. Ymddengys bod hyn yn creu penbleth.
Ond pwynt pellach Huw Prys Jones ydy pam nad ydy'r wasg yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig, yn yr achos yma, anrhydeddu peilotiaid yr Ail Ryfel Byd.
Diffyg tei
Ond mae'r egwyddor yn un ehangach 'na hynny. Wrth drafod ei siwt, a'i ddiffyg tei, ei gasgliad recordiau ayb yr hyn maen nhw'n wneud, yn fwriadol wrth gwrs, ydy osgoi trafod agenda Corbyn: rhyfel, tlodi ac anghyfiawnder. Ac mae'n siŵr y bydd hynny'n parhau.
Ond dyna ddigon am Jeremy.
Yr wythnos diwethaf, ymgyrchu dros fwyar duon Dyffryn Nantlle oedd Angharad Tomos. Yr wythnos hon mae hi wedi troi yn ôl i dir mwy cyfarwydd a llawer mwy astrus. A dweud y gwir mae Angharad Tomos yn y wasg ddwywaith yr wythnos hon.
Mae hi'n ysgrifennu'r newyddion a chreu'r newyddion. Wrth i mi gyfansoddi hyn o lith mae'r newyddion yn cyrraedd ei bod hi a thair arall o flaen eu gwell mewn llys yng Nghaernarfon am eu rhan mewn protest ym maes awyr Llanbedr ger Harlech yn erbyn yr Adar Angau. Ond yn ei cholofn yn yr Herald mae'n personoli'r ymgyrch drwy holi pa mor saff ydy hi i deithio dramor gyda'i record droseddol a'i gwrthwynebiad hyglyw i'r sefydliad. Gwna hyn gan ystyried yr hyn ddigwyddodd i'w Chyd-Gymro Reyaad Khan yn Syria, cael ei ladd gan un o adar awyr ei wladwriaeth ei hun, sef Prydain, nid oherwydd yr hyn oedd o wedi ei wneud ond yr hyn y gallai o wneud. 'Wam! Bam! Thank you Cam!' oedd ymateb sensitif y Sun i'r digwyddiad.
Os oedd o'n droseddwr go iawn, dylai fod o flaen llys, meddai Angharad. Yn union fel buodd Angharad ei hun, ddoe. Ond ei phryder mwyaf hi, ydi, mai'r gwahaniaeth mwyaf rhwng y ddau yw lliw eu croen.
Gornest rhwng dwy gornel
Roedd yna baffio geiriol o fath gwahanol ar dudalennau Golwg yr wythnos ddiwethaf sef anghytuno rhwng Robin Llywelyn yn y gornel las a Simon Brooks yn y gornel goch am Gymreictod neu ddiffyg Cymreictod Gwyl Rhif 6 ym Mhortmeirion. Mae'n ymddangos mai llythyrwyr o'r gornel las sydd yn Golwg yr wythnos hon gyda dau neu dri yn codi i amddiffyn Robin Llywelyn, ac yn hawlio buddugoliaeth trwy TKO yn y rownd gyntaf. Ond, o adnabod Brooks a chriw'r gornel goch, fe fydd yna o leiaf ail rownd!
Ond os oedd llawer o'r hyn welais i'r wythnos hon yn barhad o straeon yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i, yn y diwedd, ddod ar draws rhywbeth newydd. Tua cefn cylchgrawn Golwg mae sylw i ddeng-mlwyddiant yr Helfa Gelf. A sylw i ddau artist. Dwy yr ydw i'n gyfarwydd â nhw fel unigolion a dwy, er mawr gywilydd i mi, na wyddwn i ddim am eu gwaith celfyddydol nhw. Y ddwy ydy Iola Edwards o'r Bala a Bethan Hughes, o Ruthun, y naill yn peintio a'r llall yn cwiltio. Mynnwch gopi i ddysgu rhagor, fel finnau, am eu gwaith rhyfeddol.
Byddwch yn ôl yn nwylo diogel Catrin Beard yr wythnos nesaf. Felly am y tro, diolch i chi am wrando.