Llofruddiaeth Nadia Jones: Dau wedi ymddangos yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Nadia JonesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn 34 oed a menyw 26 oed wedi bod gerbron Llys y Goron Casnewydd, wedi eu cyhuddo o lofruddio Nadia Jones yng Nghaerdydd ar 11 Medi.

Mewn gwrandawiad byr, fe ymddangosodd Kial Ahmed o Dongwynlais yn y llys, a Roxanne Deacon o Grangetown drwy gyswllt fideo o'r carchar.

Fe gadarnhaodd y ddau eu henwau, eu hoed a'u cyfeiriadau.

Mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa a byddan nhw'n mynd o flaen Llys y Goron mewn rhag-wrandawiad ar 18 Rhagfyr.

Cafodd corff Ms Jones, 38, ei ganfod tua hanner dydd, ddydd Gwener 11 Medi yn ei fflat ym Meirion Place, Tremorfa, Caerdydd.

Roedd teulu Ms Jones yn bresennol yn y gwrandawiad.

Teyrnged

Mae mam Nadia wedi rhoi teyrnged i'w merch. Disgrifiodd hi fel merch oedd yn llawn bywyd ac "wrth ei bodd yng nghwmni ffrindiau".

"Roedd hi'n gymaint o hwyl i fod o'i chwmpas," meddai.

Diolchodd i'r gymuned am eu cefnogaeth, ac i'r rhai sydd wedi rhoi gwybodaeth i'r heddlu yn ystod eu hymchwiliad. Gofynnodd hefyd i unrhyw un arall sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.