Enwi dyn fu farw wedi i gar ei daro yn Acrefair
- Cyhoeddwyd

Roedd Raymond Harris yn arfer rhedeg tafarn yn Rhiwabon
Mae dyn fu farw wedi i gar ei daro yn Acrefair ger Wrecsam y penwythnos diwethaf wedi ei enwi.
Roedd Raymond Harris yn 72 oed o Wrecsam ac yn arfer rhedeg tafarn yn Rhiwabon am 15 mlynedd.
Dywedodd ei bartner Florence Roberts a'i phlant ei fod yn "ddyn hoffus a chariadus" ac y byddai colled ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam cyn cael ei symud i ysbyty yn Stoke lle bu farw ddydd Mercher.
Roedd y ddamwain ffordd ar groesffordd Plas Bennion yr A539 ger Plas Madoc ychydig cyn 17:30 ddydd pan darodd car Hyundai arian Mr Harris.
Mae'r heddlu wedi apelio o'r newydd am dystion ac yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i ffonio 101, gan ddyfynnu RC 15140436.
Ffynhonnell y llun, Google
Bu farw Mr Harris ar ffordd yr A539 yn dilyn y digwyddiad ddydd Sul