Cymru'n aros i wybod mwy am anaf Gareth Bale
- Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwyr tîm pêl-droed Cymru yn dal i aros am ganlyniad profion meddygol ar anaf Gareth Bale.
Mae Real Madrid wedi cadarnhau bod yr asgellwr wedi dioddef "niwed i'w gyhyr" yn ei goes chwith wrth chwarae yn erbyn Shakhtar Donetsk yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.
Nid yw'r clwb wedi dweud pryd y bydd Bale yn gallu chwarae eto.
Dywedodd rheolwr Real Madrid, Rafael Benitez nad oedd hi'n glir pa mor ddifrifol yw'r anaf, ac na fydd canlyniadau pellach am rhai dyddiau.
Mae Cymru yn wynebu Bosnia-Herzegovina ar 10 Hydref ac Andorra tridiau yn ddiweddarach yn rownd ragbrofol Euro 2016.
Mae Cymru angen pwynt er mwyn sicrhau eu lle yn un o brif gystadlaethau'r byd am y tro cyntaf ers 1958.
Gareth Bale sydd wedi sgorio chwech o goliau Cymru yn ystod yr ymgyrch hyd yma, gan gynnwys gôl fuddugol yn erbyn Cyprus ddechrau'r mis.
Straeon perthnasol
- 6 Medi 2015
- 3 Medi 2015