Beiciwr mewn cyflwr difrifol iawn wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol y Crwys yng Nghaerdydd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn gael anafiadau difrifol iawn mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha coch a gwyn a Nissan Qashqai glas ar Heol y Crwys tua 10:10.
Cafodd y dyn oedd yn gyrru'r beic modur a'r ddynes oedd yn gyrru'r car eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae'r dyn mewn cyflwr difrifol iawn.
Roedd y ffordd ar gau am oriau ond mae wedi ail-agor erbyn hyn.
Mae'r heddlu am siarad ag unrhyw un welodd y cerbydau cyn y digwyddiad neu unrhyw un stopiodd i roi cymorth sydd heb roi eu manylion hyd yn hyn.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 01656 655555, gan ddyfynnu 1500342708.