Lansio pecyn cymorth i helpu meddygfeydd mewn trafferth

  • Cyhoeddwyd
A GP writing a prescription
Disgrifiad o’r llun,
Bydd modd i feddygfeydd wneud cais am gymorth i'w bwrdd iechyd

Mae pecyn cymorth yn cael ei lansio sy'n anelu at helpu meddygfeydd sydd mewn peryg o gael eu cau neu o orfod torri ar wasanaethau cleifion.

Yn ôl y cynllun, bydd modd i'r rhai sydd mewn perygl o gau neu wneud toriadau yn y 12 mis nesaf wneud cais am gymorth i'w bwrdd iechyd.

Mae'r cynllun ar gyfer 2015-17 yn sgil cytundeb rhwng Gwasanaeth Iechyd Cymru a'r corff sy'n cynrychioli meddygon teulu (Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru).

Fe fydd unrhyw gymorth sy'n cael ei roi yn cyd-fynd ag amcanion cynlluniau strategol tair blynedd y byrddau iechyd a gwella gwasanaethau gofal sylfaenol.

Bydd ar gael ar gyfer trefniadau rheoli a llwyth gwaith, gweithwyr iechyd proffesiynol ychwanegol, a chymorth cefn swyddfa ac ariannol.

'System glir'

Bydd meddygfeydd sy'n gwneud cais am help yn cael eu cyfeirio at banel asesu lleol fydd yn cynnwys cyfarwyddwr meddygol cysylltiol y bwrdd iechyd a chynrychiolwyr y pwyllgor meddygol lleol a'r cyngor iechyd cymuned.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae'r fframwaith cynaliadwyedd newydd yn gosod system glir i sicrhau bod practisau mewn perygl yn gallu gwneud cais am gymorth fel rhan o ddiwygio'r gofal sylfaenol y mae byrddau iechyd yn ei gyflawni ... fe fydd yn rhan o wella gwasanaethau i'r cyhoedd."

Yn ôl Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, mae'n bwysig cydnabod bod cymunedau trefol difreintiedig a gwledig yn wynebu heriau unigryw.

"Bydd y fframwaith yn sicrhau y bydd practisau, sydd mewn perygl o gau, yn cael cymorth priodol yn brydlon ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i'r practisau ..."