'Triniaeth canser o fewn 28 diwrnod'

  • Cyhoeddwyd
prawf gwaed canserFfynhonnell y llun, Thinkstock

Fe fydd cynllun i gyflwyno targed 28 diwrnod i ddechrau triniaeth canser yn rhan o faniffesto etholiad Plaid Cymru y flwyddyn nesaf.

Fe gafodd cynllun tebyg ei gyhoeddi yn Lloegr ddechrau'r wythnos hon.

62 diwrnod yw'r targed ar hyn o bryd.

Hefyd bydd maniffesto 2016 Plaid Cymru yn cynnwys addewid i adeiladu tair canolfan arbenigol i gynnal profion diagnostig er mwyn cyrraedd y targed.

Mae'r blaid yn amcangyfrif y bydd y canolfannau'n costio oddeutu £30m i'w hadeiladu, yn ogystal â chostau cynnal o £3m bob blwyddyn.

Mae dadansoddiad Plaid Cymru o ffigyrau swyddogol yn awgrymu mai dim ond 0.9% o gleifion yn Lloegr sy'n aros mwy na chwe wythnos am sgan MRI. 23.3% yw'r ffigwr yng Nghymru. Am cystoscopi - triniaeth arbenigol ar y bledren - 6.4% a 52.3% yw'r ffigyrau.

'Yn llawer hwy'

Fe ddywedodd llefarydd iechyd y blaid, Elin Jones fod "rhestri aros am brofion diagnostig yng Nghymru yn llawer hwy nac yn unman arall.

"Ac mae hyn yn golygu bod pobl, sy'n pryderu y gallan nhw fod yn sâl, yn gorfod aros yn rhy hir am ddiagnosis.

"Yn Lloegr dywed y llywodraeth y bydd yn sicrhau y caiff cleifion ddiagnosis canser ymhen 28 diwrnod. Yng Nghymru byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ceisio bod gystal â Lloegr o ran amseroedd aros a gwasanaeth."

Er iddi gydnabod fod llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian i drin canser, dywedodd nad oedd yr arian ychwanegol "wedi gwneud argraff ar amseroedd aros am brofion".