Gêm gyfartal i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Yn yr ail fatiad sgoriodd Aneurin Donald 40 hfa i Forgannwg
Cyfartal oedd hi yn y gêm olaf y tymor hwn i Glwb Criced Morgannwg yn erbyn Sir Northampton.
Ar ôl colli mwyafrif y pedwar diwrnod o chwarae oherwydd y tywydd fe sgoriodd Morgannwg 99-3 yn eu hail fatiad wedi 233 yn y batiad cyntaf.
Cafodd Aneurin Donald 40 hfa yn yr ail fatiad.
Sgoriodd Sir Northampton 278 yn eu hunig fatiad nhw.
Yn y diwedd cafodd Morgannwg naw pwynt bonws a chafodd y tîm cartref 10.