Cyhoeddi tîm Cymru i wynebu Uruguay

  • Cyhoeddwyd
gatland
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Gatland fod angen i Gymru fod yn "glinigol" ddydd Sul

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi newidiadau i dîm Cymru fydd yn chwarae eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn erbyn Uruguay yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sul.

Doedd Rhys Webb a Leigh Halfpenny ddim ar gael ar ôl i'r ddau gael eu hanafu yn ddifrifol yng ngêm ddiwethaf y crysau cochion yn erbyn yr Eidal.

Mae Gareth Davies wedi ei ddewis fel mewnwr, tra bydd Liam Williams yn rhif 15.

Cymru: Liam Williams, Alex Cuthbert, Cory Allen, Scott Williams, Hallam Amos, Rhys Priestland, Gareth Davies, James King, Justin Tipuric, Sam Warburton (cap), Luke Charteris, Jake Ball, Samson Lee, Scott Baldwin, Paul James.

Ar y fainc: Ken Owens, Aaron Jarvis, Tomas Francis, Dominic Day, Dan Lydiate, Ross Moriarty, Lloyd Williams, Matthew Morgan.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Mae chwarae yng Nghwpan y Byd dros eich gwlad, a hynny ar dir cartref yn anrhydedd mawr, ac rwy'n siŵr y bydd y chwaraewyr yn dod a hynny i mewn i'r gêm.

"Mae'n wych cael Liam a Samson yn ôl yn y tîm. Maent wedi hyfforddi yn galed iawn, a bydd dydd Sul yn gyfle gwych iddyn nhw."

Cofiwch am safle arbennig Cwpan y Byd ar BBC Cymru Fyw ac am y llif byw fydd yn dod a'r diweddara o'r gêm ddydd Sul.