Deiniol yn darogan: Uruguay

  • Cyhoeddwyd
Deiniol Jones

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi cyhoeddi ei dîm i chwarae'r gêm gyntaf yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn erbyn Uruguay yn Stadiwm y Mileniwm ar 20 Medi.

Enillodd Deiniol Jones 13 cap dros ei wlad ac mae wedi bod yn trafod y gêm gyda Cymru Fyw:

Sgleinio heb y sêr?

Fi'n hynod falch bod Cymru wedi mynd - heb amharch - gyda'r ail dîm a gadael y sêr mas. Achos i fi, os eith hi i bwyntiau, sai'n credu eith Cymru drwyddo.

Gêm gyntaf, a gêm fwyaf Uruguay yw hon. Gyda'r ffordd mae'r gemau yn gweithio mas, geith Awstralia a Lloegr well cyfle i sgorio mwy o bwyntiau.

Fi'n credu neith y tîm 'ma ddaioni i'r garfan achos ma' Uruguay yn mynd i fod yn galed - mae'n gyfle i'r chwaraewyr gael dangos eu bod nhw'n gallu perfformio ar y llwyfan mwyaf.

Mae 'na lot wedi son bod y bois wedi ymarfer mor galed, efallai bydde nhw'n torri lawr a ddim yn para tan ddiwedd Cwpan Y Byd, a bod rhai am fynd 'nôl i'r clybiau a'r rhanbarthau gydag anafiadau. Ond ar hyn o bryd, dyw hynny ddim yn bwysig.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Cymru yn croesawu cryfder Samson Lee yn y sgrymiau

Disgyblaeth yn y sgrym

Be' sy'n bwysig nawr yw'r wythnosau nesa 'ma. Mae Cymru wedi paratoi yn arbennig o dda. Do, maen nhw wedi ca'l anafiadau ond fi'n credu, wrth edrych ar gêm Uruguay, os yw Samson Lee a Liam Williams yn ffit ar ôl y gêm, gall Cymru fynd i Twickenham a gwneud jobyn go lew yn erbyn y Saeson.

Mae hi mor bwysig yn rygbi dyddiau 'ma i beidio ildio ciciau cosb yn y sgrymiau, a cheisio cael sgrym gref. Mae Samson Lee yn gryf yn y sgrym, a dyw'r ffaith fod e heb ymarfer ddim yn mynd i effeithio ar ei allu i sgrymio yn effeithiol.

Fi'n meddwl neith e a Tomas Francis chwarae hanner a hanner wythnos hyn a wythnos nesa' yn erbyn Lloegr. Dyw'r naill na'r llall yn ddigon ffit i chwarae gêm gyfan.

Gyda Liam, mae e'n fachgen mor hyderus, heb ormod o barch at neb. Mae e eisiau disgleirio a does dim ofn neb arno fe, yn enwedig nawr bod cyfle 'da fe i gael ei le fel cefnwr [yn absenoldeb Leigh Halfpenny].

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cyfle i Liam Williams ddisgleirio yn y cefn yn absenoldeb Leigh Halfpenny

Balchder Uruguay

Rhaid cofio mai amatur yw'r rhan fwya' o fechgyn Uruguay. Fi'n disgwyl i fois Cymru - sy' wedi bod yn ymarfer mor galed a mor drylwyr - i roi perfformiad proffesiynol a ennill yn dda. Mae lot o falchder 'da Uruguay a fydden nhw'n edrych i fwrw bob math o lympie mas o fois Cymru!

Ond 'sdim ots pa dîm fyddai Cymru wedi rhoi mas, dylen nhw fod yn ddigon da i guro. Mae gan Uruguay fois mawr cryf, ond rhaid cofio dyw bois Cymru ddim yn fach rhagor gyda'r holl ymarfer maen nhw'n ei wneud.

Byddwn i'n gobeithio fod gan Gymru ddigon o falchder i beidio rhoi cais i ffwrdd. Fi'n siwr bydd [y rheolwr amddiffyn] Shaun Edwards yn gosod y targed yna iddyn nhw.

Canlyniad: Cymru i ennill o tua 60 pwynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Gareth Davies fydd mewnwr Cymru ddydd Sul

Mae Deiniol yn aelod o dîm sylwebu S4C ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015.

Cymru v Uruguay, dydd Sul 20 Medi, 13:45 ar S4C.

Cofiwch hefyd am safle arbennig Cwpan y Byd ar BBC Cymru Fyw ac am y llif byw arbennig fydd yn dod o'r gêm yn erbyn Uruguay.