Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Cymru
- Published
Mae Geraint Jarman, Gwenno a Calan ymysg yr artistiaid sydd wedi eu henwi ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Cymru 2014-15.
Fe gafod y rhestr fer - sy'n cynnwys 15 albwm - ei chyhoeddi ddydd Sadwrn, ac mae'n cynnwys mwy o artistiaid Cymraeg eu hiaith nag erioed o'r blaen.
Bydd seremoni'r gystadleuaeth - gafodd ei chreu gan y DJ Huw Stephens a'r hyrwyddwr John Rostron - yn cael ei chynnal ar 26 Tachwedd yn Theatr Sherman Caerdydd.
Dywedodd Mr Stephens: "Mae hi wedi bod yn flwyddyn arall ragorol i gerddoriaeth Cymru, gyda rhestr amrywiol a chadarn o albymau yn cyrraedd y rhestr fer. Mae 'na eiriau rhagorol, recordiau yn y Gymraeg, gwerin, electronica a roc i goncro'r byd ar y rhestr.
"Rydw i'n credu y bydd sialens anodd yn wynebu'r beirniaid, gan fod yr albymau hyn i gyd yn haeddu lle ar y rhestr. Edrychwn ymlaen at ddathlu pob un ohonynt yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd".
Y rhestr fer
- Calan - Dinas (Sain)
- Catfish and the Bottlemen - The Balcony
- Geraint Jarman - Dwyn yr Hogyn Nol
- Gwenno - Y Dydd Olaf
- H Hawkline - In the Pink Condition
- Hippies vs Ghosts - Droogs
- Houdini Dax - Naughty Nation
- Joanna Gruesome - Peanut Butter
- Keys - Ring the Changes
- Paper Aeroplanes - Joy
- Richard James - All the New Highways
- Tender Prey - Organ Calzone
- Trwbador - Several Wolves
- Zarelli - Soft Rains
- Zefur Wolves - Zefur Wolves