Dathlu cyfraniad sêr eu cyfnod
- Cyhoeddwyd

Mae noson arbennig wedi'i threfnu i ddathlu cyfraniad pedwar o sêr eu cyfnod yn y Sîn Roc Gymraeg fu farw cyn eu hamser.
Mae'n dweud cyfrolau am y pedwar eu bod yn cael eu hadnabod gydag enwau'r grwpiau y buon nhw'n aelodau ohonynt - Barry Cyrff, Al Maffia, Johnny Fflaps a Bern Elfyn Presli.
Bydd nifer o artistiaid o'r cyfnod, a rhai newydd, yn dod ynghyd ar nos Sadwrn 7 Tachwedd yn Neuadd Ogwen, Bethesda, i gofio am y pedwar.
Trefnydd y noson yw Rhys Mwyn, a bu'n siarad gyda BBC Cymru Fyw am y noson.
Arloesol
"Bu farw Al Maffia yn Llydaw a dwi'n cofio gig gafodd ei threfnu i godi arian er mwyn cludo'i gorff adre. Heblaw hynny, does dim byd wedi digwydd i gofio am gyfraniad y pedwar yma, ac roedd y cyfraniad yn fawr i'r byd cerddorol ac i'r bandiau hefyd," meddai.
"Roedd y Cyrff a Maffia yn amlwg iawn fel bandiau byw gorau'u cyfnod, ond roedd Y Fflaps ac Elfyn Presli yn arloesi ac yn teithio lot hefyd.
"Dwi'n cofio bod ar daith yn Ewrop gyda'r Anhrefn a dyma ni'n gweld Y Fflaps mewn caffi ar y draffordd yng Ngwlad Belg a doedden ni ddim yn gwybod eu bod nhw'n teithio hefyd!
"Roedd Bern yn athrylith - roedd y gân Jackboots Maggie Thatcher yn un o anthemau'r cyfnod - a dwi'n amau a gafodd ei gyfraniad o'r gydnabyddiaeth oedd o'n haeddu."
Ond pam mynd ati nawr i drefnu noson fel hon? Beth oedd y cymhelliad?
"Mae Mark Roberts (Y Cyrff) a fi wedi bod yn trafod hyn ers talwm a chytuno y dylen ni drefnu rhywbeth i ddathlu bywydau'r pedwar a chofio amdanyn nhw wrth gwrs.
"Mae Mark wedi mynd ati i drefnu'r cerddorion a finne'n neud pethau eraill. Roedden ni'n cytuno bod gwir angen cadw Barry, Al, Johnny a Bern yn y cof."
Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ar y noson fydd Radio Rhydd, Fiona a Gorwel Owen (Eirin Peryglus/Plant Bach Ofnus) Dic Ben a Gethin Jones (aelodau o Elfyn Presli fydd yn perfformio caneuon y grŵp am y tro cyntaf ers 1986), Ann Matthews ac Alan Holmes o'r Fflaps, Maffia Mr Huws a band newydd o'r enw The Earth sy'n cynnwys Mark Roberts (Cyrff), Dafydd Ieuan (Super Furry Animals) a Dionne Bennett (The Peth).