Menyw wedi marw mewn tân yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i dafarn Y Llew Coch ar Waterfall Road am 16:20
Mae menyw wedi marw yn dilyn tân mewn gwesty yn Nyserth, Sir Ddinbych.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i westy Y Llew Coch ar Waterfall Road am 16:20 ddydd Gwener.
Fe gafodd criwiau o ddiffoddwyr o'r Rhyl, Abergele a Threffynnon eu gyrru i'r safle, ond erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd y tân wedi gafael yn llawr cynta'r adeilad.
Llwyddodd diffoddwyr i gael mynediad i'r adeilad gydag offer anadlu arbennig, ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff y fenyw y tu mewn.
Mae ymchwiliad i achos y tân wedi dechrau gyda'r Gwasanaeth Tân a Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar y cyd.