Llafur Cymru i gael 'hwb gan Corbyn', medd ACau'r blaid

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn

Fe all Jeremy Corbyn roi hwb i obeithion y Blaid Lafur yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf, yn ôl ACau'r blaid.

Dywedodd aelodau'r Cynulliad mewn seddi ymylol pwysig wrth raglen Sunday Politics Wales bod ymgyrch Mr Corbyn i fod yn arweinydd wedi bod yn hwb i aelodaeth y blaid ac wedi cynyddu brwdfrydedd cefnogwyr.

Mae aelodau eraill o'r blaid yng Nghymru wedi mynegi pryder am sut y bydd etholwyr yn ymateb i bolisïau asgell chwith arweinydd newydd y blaid, yn enwedig mewn seddi ymylol.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones gyfarfod Mr Corbyn am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf mewn cyfarfod gafodd ei ddisgrifio gan lefarydd fel un "positif".

Mae arweinydd newydd y blaid wedi dweud y bydd yn ymweld â Chymru unwaith y mis nes yr etholiad ym mis Mai.

'Dyblu aelodaeth'

Dywedodd AC Gogledd Caerdydd, Julie Morgan, bod llwyddiant Mr Corbyn wedi dyblu aelodaeth y blaid yn ei hardal.

Y Ceidwadwyr enillodd y sedd yn yr etholiad cyffredinol ond mae'r etholaeth wedi bod yn frwydr rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr yn y blynyddoedd diwethaf.

"Un o'r tasgau allweddol i Lafur Cymru yw troi'r holl frwdfrydedd i'r gwaith ry'n ni angen ei wneud yn y blaid," meddai Ms Morgan.

Ond rhybuddiodd yr AC, gefnogodd Yvette Cooper yn y ras am arweinyddiaeth y blaid, y gallai llais Llafur Cymru gael ei golli wrth i'r blaid ganolbwyntio ar ei arweinydd newydd.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Julie Morgan bod llwyddiant Mr Corbyn wedi dyblu aelodaeth y blaid yn ei hardal

Fe wnaeth Llafur golli sedd Gŵyr i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol - etholaeth oedd wedi bod yn sedd Llafur ers dros 100 mlynedd.

Dywedodd AC Dwyrain Abertawe Mike Hedges, gefnogodd Mr Corbyn yn y ras am arweinyddiaeth y blaid, bod rhai fyddai wedi pleidleisio am y blaid ym Mhenrhyn Gŵyr wedi dewis peidio pleidleisio am "nad oes digon o wahaniaeth rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr" - rhywbeth mae'n dweud allai newid dan arweinyddiaeth Mr Corbyn.

Fe wnaeth arweinydd Ceidwadwyr Cymru rybuddio ddydd Sadwrn mai Jeremy Corbyn a Carwyn Jones y.

Ond dywedodd AC Dyffryn Clwyd Ann Jones bod honiadau'r Ceidwadwyr bod Llafur yn fygythiad i ddiogelwch y genedl yn "ofnadwy".

"Roeddwn wedi'n siomi gweld y Prif Weinidog yn dweud bod pobl fel fi nawr yn fygythiad i ddiogelwch y genedl oherwydd fy arweinydd - rwy'n gweld hynny'n ofnadwy," meddai.

Sunday Politics Wales, BBC1 Wales 13:30