Gohirio streic amgueddfeydd wrth i undeb ymgynghori

  • Cyhoeddwyd
National Museum Wales strike action
Disgrifiad o’r llun,
Bu staff yn streicio y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe fis diwethaf

Mae streic gan weithwyr amgueddfeydd cenedlaethol Cymru am ffrae dros gyflogau wedi ei ohirio.

Mae aelodau undeb PCS wedi protestio yn erbyn cynlluniau i roi diwedd i dâl ychwanegol am weithio penwythnosau a gŵyl y banc.

Dywedodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ddydd Gwener y bydd PCS yn ymgynghori gyda'i aelodau am ei gynnig i roi tâl ychwanegol i staff penwythnosau.

Bydd streiciau oedd i gymryd lle dros y ddwy wythnos nesaf yn cael eu gohirio, meddai.

"Bydd pob un o safleoedd Amgueddfa Cymru ar agor fel arfer yr wythnos hon," meddai llefarydd.

Daw'r newyddion ar ôl tri mis o drafodaethau.