Gwrthdrawiad beic modur Caerdydd: Dyn wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Mark Riley
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Mark Riley yn gweithio fel plastrwr ac yn feiciwr modur brwd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fore Iau.

Bu farw Mark Riley, 43 oed o ardal Y Waun yn y ddinas, yn y gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha coch a gwyn a Nissan Qashqai glas ar Heol y Crwys.

Fe gafodd Mr Riley a'r ddynes oedd yn gyrru'r car eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ble bu farw'r beiciwr modur.

Dywedodd ei deulu: "Roedd pawb oedd yn ei gyfarfod yn ei garu. Roedd yn edrych ymlaen ar gyfer genedigaeth ei bedwerydd plentyn, ac roedd i briodi y flwyddyn nesaf."

Fe wnaeth y teulu ddiolch i'w ffrindiau oedd wedi dod i'w weld yn yr ysbyty nos Iau, ac i'r staff am eu gwaith.

Mae'r heddlu am siarad ag unrhyw un welodd y cerbydau cyn y digwyddiad neu unrhyw un stopiodd i roi cymorth sydd heb roi eu manylion hyd yn hyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 01656 655555, gan ddyfynnu 1500342708.