Cwpan Rygbi'r Byd: Cwmni trên yn ymddiheuro

Passengers at Bristol Parkway Image copyright @michaeljpower73/Twitter
Image caption Roedd teithwyr wedi cwyno fod gormod o bobl yng ngorsaf Parkway ym Mryste

Wrth i Iwerddon herio Canada yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, mae Cwmni First Great Western wedi ymddiheuro am oedi ar wasanaethau.

Fe ddywedodd y cwmni nad oedden nhw wedi sylweddoli faint o bobl fyddai'n defnyddio'r trenau i geisio cyrraedd Caerdydd ar gyfer y gêm.

Mae nhw'n cydnabod bod eu trenau rhwng Paddington a Chaerdydd yn rhy llawn.

Roedd y cwmni wedi trefnu 8,000 o seddi ychwanegol ar wasanaethau, ond roedd 1,500 yn fwy na'r disgwyl am deithio.

Ychwanegodd llefarydd ar ran FGW y bydd rhagor o drafod cyn gweddill gemau'r bencampwriaeth, ond bod "terfyn ar beth allwn ni ei ddarparu heb effeithio ar gwsmeriaid eraill".

Hon yw'r gêm gyntaf y bencampwriaeth i gael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm.

Bydd Cymru yn herio Uruguay yfory.

Image caption Roedd 'na fôr o wyrdd a choch ar strydoedd Caerdydd wrth i Iwerddon herio Canada
Image caption Roedd ardal gefnogwyr Parc yr Arfau dan ei sang bnawn Sadwrn

Straeon perthnasol