Ymosodiad Abertawe: Arestio dyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn wedi ymosodiad ar ddynes oedd allan yn loncian yn ardal Abertawe ddydd Iau.

Fe adawodd y ddynes ei chartref oddeutu 7.40pm er mwyn rhedeg ar Heol Las a Ffordd Birchgrove gyda'i chi.

Fe gafodd y dyn ei arestio nos Wener ac mae'n parhau i fod yn y ddalfa.

Fe ddywedodd y Ditectif Arolygydd Trudi Meyrick: "Rwy'n ddiolchgar am y wybodaeth a gawsom ni gan y gymuned, a hoffwn bwysleisio ein bod ni'n parhau i ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol ddigwyddodd gerllaw, hefyd.

"Er nad oes unrhywbeth i awgrymu fod dolen rhwng y ddau ddigwyddiad, rydym ni'n deall y pryder ymysg aelodau'r gymuned ac yn parhau i geisio dod o hyd i'r un sy'n gyfrifol."