Abertawe 0-0 Everton
- Published
image copyrightPA
Fe gafodd Abertawe ac Everton bwynt yr un wrth i'r gêm ddod i ben yn ddi-sgôr yn y Liberty bnawn Sadwrn.
Fe ddylanwadodd Everton yn ystod yr hanner cyntaf er i Bafitimbi Gomis fethu a sgorio o drwch blewyn i'r Elyrch.
Roedd hi dipyn yn fwy cyffrous yn yr ail hanner, ac fe fethodd Romelu Lukaku gyfle i roi Everton ar blaen.
Ym munud ola'r gêm, fe gafodd Kevin Mirallas gerdyn coch - dim ond 90 eiliad wedi iddo ddod ar y cae fel eilydd.
Ond chafodd Abertawe ddim digon o amser i fanteisio ar hynny, ac fe ddaeth y gêm i ben yn ddi-sgôr.