Canfod corff mewn maes parcio ym Mae Trearddur
- Cyhoeddwyd

Mae corff dyn wedi ei ganfod mewn car wedi ei barcio y tu allan i westy ar Ynys Môn.
Cafodd swyddogion eu galw i faes parcio gwesty Beach Motel ym Mae Trearddur tua 4.30pm bnawn Sadwrn.
Fe gafwyd hyd i'r dyn mewn car, a dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.