Cymru 54-9 Uruguay

  • Cyhoeddwyd
cory allen cymru uruguayFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cymru 54-9 Uruguay

Roedd sicrhau pwynt bonws yn erbyn Uruguay yn hanfodol i Gymru bnawn Sul, wedi i Loegr ac Awstralia - mawrion eraill Grŵp A - eisoes lwyddo i wneud hynny yn ystod penwythnos agoriadol y bencampwriaeth.

Daeth y pwynt hwnnw yn yr hanner cyntaf wedi trydydd cais Cory Allen, gydag ymdrech Samson Lee yn ychwanegu at y cyfanswm.

Ond er yr holl geisiau - wyth i gyd - doedd yr ornest ddim yn fêl i gyd i'r Cymry.

Fe gafodd Paul James ei anafu, aeth Liam Williams oddi ar y cae â phecyn rhew ar ei glun, ac fe herciodd Cory Allen o'r maes - hyn oll yn yr hanner cyntaf.

Fe wnaeth Filipe Berchesi argraff yn fuan wrth iddo drosi dwy gic gosb a rhoi Uruguay ar y blaen o chwe phwynt wedi naw munud.

Er sicrhau wyth cais a 54 pwynt, chwe diwrnod cyn wynebu Lloegr yn Twickenham, doedd Cymru ddim wastad yn argyhoeddi.

Fe ddywedodd Martyn Williams ei fod yn disgwyl i Gymru sgorio "70 neu 80 pwynt yn gyfforddus. Mae wedi bod yn berfformiad proffesiynol gan Gymru, ond doedd e ddim yn syfrdanol".

'Peri pryder'

Mewn cynhadledd i'r wasg, fe ddywedodd Warren Gatland fod yr anafiadau yn ystod y gêm yn peri pryder.

Mae gan Cory Allen anaf sylweddol i linyn y gâr, a dydyn nhw ddim yn gwybod pa mor ddifrifol yw anaf Liam Williams, meddai.

Ychwanegodd fod Samson Lee a Paul James eu dau wedi eu hanafu, a bod Cymru yn wynebu penderfyniad anodd i ddod â rhywun i'r garfan i gymryd lle un ohonyn nhw.

Gallwch edrych yn ôl ar holl hynt y gêm ar lif arbennig Cymru Fyw, ac am fwy o gyffro Cwpan Rygbi'r Byd ewch i'n is-hafan arbennig.