£115m i hybu arloesedd ymysg cwmnïau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Fe fydd buddsoddiad o £115m yn cael ei wario dros gyfnod o saith mlynedd er mwyn ysgogi busnesau i arloesi a datblygu cynnyrch newydd.
Fe fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn cyhoeddi'r fenter, sy'n cynnwys arian Ewropeaidd a buddsoddiad o'r sector breifat, ddydd Llun.
Dywedodd Mr Jones: "Ledled Cymru, bydd pecyn arian SMART yn gymorth i gwmnïau Cymreig ddatblygu eu syniadau newydd drwy gael gwared â rhwystrau ariannol, a galluogi cydweithio rhwng ysgolheigion a'r sectorau cyhoeddus a phreifat, i ddod â chynnyrch newydd Cymreig i'r farchnad."
Nod cynllun SMART yw helpu 1,600 o gwmnïau i greu hyd at 300 o syniadau a chynnyrch newydd.