Medal aur i Jade Jones yn y Grand Prix yn Nhwrci
- Cyhoeddwyd

Mae Jade Jones ar frig rhestr detholion y byd wedi iddi gipio'r fedal aur yn ail gymal Cyfres Grand Prix Taekwondo y Byd yn Nhwrci.
Fe gyrhaeddodd y Gymraes, 22 oed, rownd derfynol y categori -57kg drwy guro Nikita Glasnovic o Sweden.
Yna, fe drechodd Huang Yun-wen o Taipei 6-3, fis wedi iddi ennill y fedal arian yng nghymal cyntaf y gyfres yn Moscow.
Mae Jones yn gobeithio amddiffyn ei medal aur Olympaidd yn Rio de Janiero y flwyddyn nesaf.