Heddlu'r Gogledd: Tân Dyserth 'ddim yn amheus'

  • Cyhoeddwyd
Y Llew Coch
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i dafarn Y Llew Coch brynhawn Gwener

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau nad yw tân wnaeth achosi marwolaeth dynes mewn gwesty yn Nyserth, Sir Ddinbych, yn cael ei drin fel digwyddiad amheus.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i westy Y Llew Coch ar Waterfall Road am 16:20 ddydd Gwener.

Fe gafodd criwiau o ddiffoddwyr o'r Rhyl, Abergele a Threffynnon eu gyrru i'r safle, ond erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd y tân wedi gafael yn llawr cynta'r adeilad.

Llwyddodd diffoddwyr i gael mynediad i'r adeilad gydag offer anadlu arbennig, ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff y ddynes y tu mewn.