Cymeradwyo cynlluniau i gau chwe ysgol gynradd ym Môn
- Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor gweithredol Cyngor Môn wedi ail-gymeradwyo cynlluniau i gau chwe ysgol gynradd ac adeiladu dwy ysgol newydd yn eu lle.
Fe gafodd gynlluniau eu cyhoeddi yn gynharach eleni i gau Ysgol Parchedig Thomas Ellis, Ysgol Llaingoch ac Ysgol Y Parc a chael "ysgol gynradd drawsffurfiol" 540 disgybl ar hen safle Ysgol Cybi yn ardal Caergybi.
Byddai'r ysgol newydd yn costio £11m, gyda hanner yr arian yn dod gan Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth yr awdurdod gyhoeddi cynlluniau yn gynharach i gau Ysgol Llanfachraeth, Ysgol Ffrwd Win ac Ysgol Cylch Y Garn hefyd, ac adeiladu ysgol Gymraeg yn Llanfaethlu yng ngorllewin yr ynys.
Bu ymgynghoriad ar y ddau gynllun i alluogi unrhyw wrthwynebiad i gael eu lleisio.
Yn dilyn cyfarfod ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Gan nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghorol, mae'r pwyllgor gweithredu wedi dewis ail-gymeradwyo'r cynigion i gau'r ysgolion a chaniatáu i swyddogion barhau gyda'r broses i adeiladu'r ddwy ysgol newydd."