Diflaniad Alec Warburton: Darganfod corff
- Cyhoeddwyd
Cafodd Alec Warburton ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad dyn o Abertawe wedi cadarnhau bod corff wedi ei ddarganfod yng Nghonwy.
Fe gafodd Alec Warburton, 59 oed, ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf yn ei gartref yn ardal Sgeti, Abertawe.
Cafodd y corff ei ddarganfod ger pentref Dolwyddelan ddydd Sul.
Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto ond mae teulu Mr Warburton wedi cael gwybod am y datblygiad.
Mae tenant Mr Warburton, David Craig Ellis, 40 oed, yn Iwerddon, ac mae Heddlu'r De wedi gwneud cais am warant arestio Ewropeaidd.
Cafodd y cais ei roi gerbron y llysoedd dros y penwythnos, a dim ond unwaith y bydd y cais yn cael ei gwblhau y bydd y broses ystraddodi'n gallu mynd yn ei flaen.