BBC Cymru Fyw

Allen allan o Gwpan Rygbi'r Byd

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionFe wnaeth Cory Allen groesi deirgwaith dros Gymru cyn cael ei anafu ddydd Sul

Daeth cadarnhad na fydd y canolwr Cory Allen ar gael i chwarae i Gymru eto yn ystod cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd.

Cafodd ei anafu yn ystod buddugoliaeth Cymru o 54-9 yn erbyn Uruguay ddydd Sul.

Mae Cymru wedi galw Tyler Mogan o'r Dreigiau i'r garfan yn lle Allen.

Sgoriodd Allen dri chais cyn iddo anafu ei goes.

"Mae'n drist iawn colli Cory yn y modd yma, yn enwedig o gofio mai ef oedd seren y gêm," meddai hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

Straeon perthnasol

  • Cymru 54-9 Uruguay