Canslo sioe Gwydion yng Nghaerdydd
- Published
Mae cynhyrchwyr sioe gerdd Gwydion, gan Gwmni Theatr Maldwyn, wedi gorfod canslo perfformiad o'r sioe yng Nghaerdydd oherwydd gwerthiant tocynnau isel.
Roedd y sioe i fod i gael ei pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm ar 11 Hydref.
Ond dim ond 240 o docynnau oedd wedi eu gwerthu, ac roedd angen i'r cwmni werthu o leiaf 700 i dalu costau llwyfannu'r sioe.
Yn ôl cyfarwyddwr y cwmni, Penri Roberts, fe fydd pawb a brynodd docyn yn cael eu digolledu.
Fe werthwyd pob tocyn ar gyfer perfformiad cyntaf y sioe ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni o fewn tridiau.
Mae'r sioe, sydd wedi ei chreu gan Penri Roberts, Gareth Glyn a'r diweddar Derec Williams, wedi ei seilio ar un o geinciau enwocaf y Mabinogi.
'Hynod siomedig'
Dywedodd Penri Roberts, Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Maldwyn, wrth BBC Cymru Fyw eu bod fel cwmni yn hynod siomedig eu bod wedi methu mynd â'r sioe i brifddinas Cymru, ond dywedodd nad oedd dewis arall yn y pendraw.
Yn gynharach, fe ddywedodd ei fod yn credu "fod 'na sawl rheswm pam nad oes cymaint o docynnau wedi gwerthu, i ddechrau mae 'na gêm rygbi fawr ymlaen yr un diwrnod, rhwng Iwerddon a Ffrainc, ac felly pob 'stafell ymhob gwesty yng Nghaerdydd wedi gwerthu, felly os oedd rhywun yn bwriadu teithio i Gaerdydd i weld y sioe, does ganddyn nhw nunlle i aros dros nos."
Dywedodd Mr Roberts ei bod yn costio £15,000 i lwyfannu'r sioe, ac os na fyddai 700 o docynnau wedi'u gwerthu, yna y bydden nhw'n gorfod wynebu'r golled ariannol eu hunain petai nhw'n parhau.
Straeon perthnasol
- Published
- 16 Medi 2015