Ailagor cwest ar ôl 10 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth dyn o Ddinbych wedi ail-ddechrau bron 10 mlynedd ar ôl iddo farw.
Bu farw Jamie Appleby, 27 oed o Ddinbych, ym mis Tachwedd 2005 yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ar ôl iddo gael ei daro'n wael.
Roedd ganddo syndrom Down.
Cyn-Grwner Gogledd-ddwyrain Cymru, John Hughes, gynhaliodd y cwest gwreiddiol a bu farw Mr Hughes yn 2011.
Mae teulu Mr Appleby wedi beirniadu'r oedi ac fe gafodd y cwest ei ail-agor gan y crwner, John Gittins yn Rhuthun, ddydd Mawrth.
Mae rhai'n honni mai "iechyd gwael" llys-dad Mr Appleby oedd rheswm yr oedi dros y tair blynedd diwethaf ond nid oedd sôn yn y cwest am y rhesymau am yr oedi yn y blynyddoedd blaenorol.
'Person unigryw'
Dywedodd mam Mr Appleby, Angela Hobson, fod gan ei mab, gafodd ei eni yn 1978, dwll yn ei galon, ond fe gafodd "blentyndod iach ar y cyfan".
"Roedd yn berson unigryw," ychwanegodd. "Mi oeddwn i'n hapus iawn."
Fe glywodd y cwest fod y mab wedi datblygu epilepsi yn ystod haf 2003 ond bod y cyflwr dan reolaeth gyda help meddyginiaeth.
Cafodd ei daro'n wael ym mis Hydref 2005 adeg gofal seibiant pan oedd ei fam i ffwrdd ac fe aed ag e i Ysbyty Glan Clwyd.
Fe glywodd y crwner fod Mr Appleby wedi gwella tipyn ond iddo gael ei daro'n wael eto ar 12 Tachwedd, a bu farw wyth niwrnod yn ddiweddarach.
Mae disgwyl i'r cwest barhau am dri diwrnod.