Gwell na De Affrica o leiaf!

  • Cyhoeddwyd
v uruguay

Fel y disgwyl mi enillodd Cymru eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd, ond fel yr eglura Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru, roedd 'na bris mawr i'w dalu am fuddugoliaeth dros Uruguay:

'Dylai Cymru fod wedi gwneud dipyn gwell'

Er eu bod wedi sgori mwy o bwyntiau a mwy o geisiau na neb arall ar benwythnos agoriadol Cwpan y Byd, dyw Cymru ddim yn hapus - ac mae hynny'n ddigon dealladwy.

Er bod llai na hanner dewis cynta' Cymru yn y pymtheg ddechreuodd y gêm, yn erbyn tîm oedd bron yn gwbl amatur, fe ddylai Cymru fod wedi gwneud dipyn gwell - yn enwedig tu ôl i'r sgrym.

Doedd safon y trafod ddim yr hyn ddylai fod a thra bod gyrru'r leiniau yn effeithiol iawn, ac yn gyfrifol am sawl un o'r ceisiau, bydd dim modd dibynnu ar y dacteg yn erbyn timau cryfach, mwy hyddysg yn eu ffyrdd o amddiffyn.

Pryder am y props

Ac yna, wrth gwrs, mae'r anafiadau. Roedd hi'n brynhawn chwerw-felys i Cory Allen - ei Gwpan Byd yn llawn wrth sgori hatrig ond yna'n wag wrth orfod tynnu mas o'r gystadleuaeth wedi rhwygo llinyn ei ar.

Mae Tyler Morgan yn ddigon abl i gymryd ei le - er mae'n siŵr mai prin iawn fydd cyfleon canolwr ifanc y Dreigiau. Achos mae sefyllfa'r props yn fwy o bryder o lawer.

Samson Lee oedd i fod yn angor y sgrym ac mae gallu a phrofiad Paul James ar y ddau ben yn amhrisiadwy. Os nad yw'r ddau ohonyn nhw ac Aaron Jarvis yn gwella'n sydyn iawn mae'n rhoi pwysau aruthrol ar Gethin Jenkins a Tom Francis.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r canolwr Cory Allen allan am weddill y gystadleuaeth gydag anaf

Tipuric yn serennu eto

Ar yr ochr bositif, roedd Gareth Davies yn fywiog a bydd e'n elwa o gael 80 munud llawn o rygbi rhyngwladol ac fe barhaodd Scott Williams i ddangos y sgiliau i ddatgloi amddiffyn a chreu i eraill.

Fe wnaeth Hallam Amos ddangos awch am waith a synnwyr rygbi yn ymosodol ac amddiffynnol, tra bod Justin Tipuric yn wych eto - gan roi i Warren Gatland un o'r ychydig bennau tost fydd ganddo pan mae'n dod i ddewis y tîm ar gyfer y gêm dyngedfennol yn erbyn Lloegr nos Sadwrn.

Roedd 'na un fendith mawr y penwythnos hwn hefyd - o leia 'ni ddim yn cefnogi De Affrica!

Disgrifiad o’r llun,
Bydd Gareth Davies yn elwa o chwarae gêm ryngwladol gyfan, yn ôl Gareth Charles

Am fwy o gyffro Cwpan Rygbi'r Byd ewch i'n is-hafan arbennig, lle cewch gyfle i weld Gareth Charles a'i gi ffyddlon yn ceisio darogan canlyniadau Cymru yn Carlo v Charlo.