Uned y Galon Ysbyty'r Brifysgol yn 'un o'r gorau yn y DU'
- Cyhoeddwyd

Mae ystadegau newydd yn dweud bod uned lawfeddygaeth y galon yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd ymhlith y gorau yn y DU.
Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Indu Deglurka un o brif lawfeddygon y galon fod staff yr Ysbyty Athrofaol yn darparu "gofal o'r radd flaenaf", ond ychwanegodd bod "ffordd bell i fynd o hyd" i sicrhau fod cleifion ar draws de Cymru ddim yn disgwyl yn rhy hir am lawdriniaeth ar y galon.
Mae ffigyrau y Gymdeithas Lawfeddygaeth Cardiaidd yn rhoi'r uned yn y brifddinas ymhlith y tri sy'n perfformio orau ym Mhrydain, ynghyd â Southampton ac Ysbyty Papworth, Caergrawnt.
Dywedodd Miss Deglurkar - sy'n arwain yr uned yn yr Ysbyty Athrofaol: "Rydyn ni wrth ein boddau gyda'r canlyniad gwych yma unwaith eto. Mae'r uned wedi perfformio'n dda yn gyson dros nifer o flynyddoedd ond mae'r ffigyrau diweddara' yma'n cadarnhau eto fod ansawdd y gofal yn rhagorol.
"Mae'r tîm cyfan yn gorfod perfformio i'r safonau uchaf posib er mwyn cael y math yma o ganlyniadau ac mae hyn yn adlewyrchu ymdrech pawb o fewn y tîm."
Yn ôl ffigyrau'r gymdeithas, mae 98.67% o gleifion sy'n mynd i'r uned yng Nghaerdydd yn goroesi.
Cafodd John Asquith lawdriniaeth yn yr uned yn ddiweddar, ac fe fu'n rhannu ei brofiadau gyda gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke.
'Hwb i wasanaethau'
Ychwanegodd Dr Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol y bwrdd iechyd:
"Mae'r rhain yn ganlyniadau gwirioneddol rhyfeddol ac yn dangos pa mor wych yw'r tîm sydd gennym yma yng Nghaerdydd, sy'n gallu darparu gofal mor arbennig i gleifion sy'n cael llawdriniaethau hynod gymhleth, hynod heriol.
"Mae 'na lawer iawn o waith wedi'i wneud yn y blynyddoedd diwetha' i wella llawdriniaethau ar y galon a thra'n bod ni'n gwybod bod mwy i'w wneud, mae'n bwysig cydnabod yr hyn mae'r tîm wedi'i gyflawni.
"Gall pawb o fewn y bwrdd ac ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod yn falch o'n canlyniadau, a chanlyniadau ein cydweithwyr yn Abertawe. Mae hyn wir yn hwb i wasanaethau cardiaidd yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2015