Claf seiciatryddol o'r gogledd ar goll

  • Cyhoeddwyd
Richard BrackenFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddiflannodd Richard Bracken o'r ysbyty amser cinio ddydd Llun

Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn pryderu am ddyn 48 oed sydd wedi diflannu o ysbyty yng ngogledd Cymru.

Cafodd Richard Bracken ei weld ddiwetha' yn gadael ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, am 11:35 ddydd Llun. Er fod disgwyl iddo ddychwelyd awr yn ddiweddarach, wnaeth o ddim gwneud hynny.

Yn ôl disgrifiad yr heddlu, mae Mr Bracken yn chwe troedfedd o daldra gyda gwallt brown byr a barf ysgafn.

Roedd yn gwisgo esgidiau rhedeg gwyn, crys glas, siwmper lwyd streipiog, jîns glas a chôt werdd pan ddifflannodd.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark Pierce, o Heddlu'r Gogledd: "Roedd Mr Bracken allan am gyfnod oedd wedi'i bennu, ond methodd ddychwelyd am 12:30.

"Wrth i amser fynd heibio rydym yn pryderu fwyfwy am ei ddiogelwch a ble mae o, ac rydym yn apelio ar i unrhyw un allai fod wedi'i weld, neu allai fod gweld rhywun sy'n debyg i'r disgrifiad ohono gysylltu â ni'n syth."

Mae nifer o asiantaethau yn chwilio am Mr Bracken yn ardal Llanfairfechan, gan gynnwys hofrennydd yr heddlu a'r Gymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub.

Mae plismyn hefyd yn cynnal ymchwiliadau yn lleol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 a defnyddio'r cyfeirnod S144718.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, yn trin cleifion seiciatryddol