O ble daw sêr Cymru'r dyfodol?
- Cyhoeddwyd

Nawr bod Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd, mae'r trafodaethau am gryfderau a gwendidau'r ymgyrch wedi dechrau'n barod.
Mae 'na rai yn dadlau bod angen rhoi mwy o gefnogaeth i rygbi ar lawr gwlad er mwyn sicrhau y bydd sêr y dyfodol yn ffynnu.
Ond faint o help mae Undeb Rygbi Cymru yn ei roi i'r clybiau lleol? Mae Clwb Rygbi Crymych yn chwarae yn Adran 1 (Gorllewin) Cynghrair Genedlaethol SWALEC. Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Tudur Lewis, is-gadeirydd y clwb:
Sut mae'r Undeb yn cefnogi clybiau fel Crymych?
Mae pob clwb sydd yn perthyn i'r Undeb yn derbyn grant bob blwyddyn yn dibynnu ar eu llwyddiant a'u hymdrech. Mae pob clwb sydd â thîm cyntaf yn derbyn y grant craidd sydd yr un peth i bob clwb.
Pa fath o ffactorau sydd yn effeithio ar yr arian mae clwb yn derbyn o'r Undeb?
Mae cyfle i ychwanegu at hyn drwy lwyddiant, hynny yw yr ucha' ry'ch chi yn y tabl, y mwya' o arian sydd ar gael. Mae modd ychwanegu at y pwyntiau i gael mwy o grant yn ôl nifer o dimoedd yn y clwb. Mae'n bosib cael 14 tîm, gan ddcehrau o dan saith oed ac ymlaen trwy'r oedrannau i'r tîm ieuenctid, ail dîm, tîm cyntaf ac wrth gwrs tîm y merched. Yn anffodus does gan Grymych ddim tîm merched.
Ffactorau eraill sy'n codi'r nifer o bwyntiau sydd yn cynyddu'r grant craidd yw nifer yr hyfforddwyr sydd yn y clwb, (ac i ba safon y maen nhw wedi eu hyfforddi), nifer y dyfarnwyr sydd yn y clwb, a nifer y bobl sydd wedi gwneud eu cyrsiau cymorth cyntaf.
Hefyd, mae'r cyfleusterau sydd ar gael gan y clwb yn bwysig, gan gynnwys safon yr ystafelloedd newid, caeau chwarae ac ymarfer cymwys, yn ogystal ag adeilad cymdeithasol y clwb ei hunan.
Yn gyffredinol, sut mae'r berthynas rhwng Crymych a'r Undeb?
Mae'n un eithaf hapus. Mae ambell i glwb yn meddwl nad ydyn nhw'n cael cymorth o gwbl gan yr Undeb. Ond, yn anffodus, clybiau yw'r rhain sydd ddim yn helpu eu hunain chwaith.
Sut gall y clybiau llai sicrhau bod yr Undeb yn gwrando arnoch chi?
Mae gan bob rhanbarth neu Sir ei chynrychiolydd yn yr Undeb ac mae lan i bob clwb i gysylltu a'u haelod i ddatgan eu pryderon, codi unrhyw ofid neu ofyn am gymorth.
Mae Cyfarfod Blynyddol yr Undeb yn agored i bob clwb ac mae gwahoddiad i ddau gynrychiolydd o bob clwb trwy Gymru i fod yn bresennol yn y cyfarfod yma.
Oes teimlad fod y rhanbarthau er enghraifft yn cael sleisen rhy fawr o'r gacen ariannol?
Yn ddigon posib, ond mae synnwyr cyffredin yn dweud fod rhaid i'r rhanbarthau gael mwy o arian gan mai nhw sy'n bwydo'r tîm cenedlaethol.
A fyddai Clwb Crymych yn medru bodoli heb grantiau'r Undeb?
Bydden, fwy na thebyg, gan ein bod yn glwb gweithgar a llwyddiannus ar y cyfan, ond mi fyddai rhaid i ni ddenu rhagor o aelodau ac o bosib codi tâl aelodaeth. Byddai angen i ni hefyd feddwl am gynnal rhagor o weithgareddau eraill.