Campau: Rhwystrau i grwpiau ething

  • Cyhoeddwyd
NofiwrFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl ddu neu o grwpiau ethnig lleiafrifol yn wynebu rhwystrau wrth geisio cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru.

Fe ddywedodd Chwaraeon Cymru bod eu hastudiaeth yn dangos nad yw Cymru eto'n gynhwysol.

Mae'r Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi, Lesley Griffiths, yn ymuno â chynrychiolwyr cymunedol, cyrff cydraddoldeb a Chwaraeon Cymru am drafodaeth ar y mater yn ddiweddarach.

Dywedodd cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister: "Yn anffodus, mae yna anghyfartaledd 'styfnig wrth ystyried pobl o gymunedau du a lleiafrifol ethnig yng Nghymru.

"Fel sefydliad rydym yn credu fod hynny'n annerbyniol."

Ychwanegodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell: "Fe ddylai chwaraeon fod i bawb - mae gan bawb yr hawl i gael mynediad i gyfleoedd i fod yn rhan o fod yn iach ac yn heini waeth beth yw eu cefndir.

'Chwalu'r muriau'

"Mae yna esiamplau gwych lle mae chwaraeon wedi gweithio'n galed i chwalu'r muriau, ac wedi gweld canlyniadau positif oherwydd hynny.

"Ond yn drist iawn mae rhai yn dal i deimlo nad ydyn nhw'n cael chwarae teg ac nad oes lle iddyn nhw ym myd y campau. Rhaid i hyn newid."

Fe wnaeth Chwaraeon Cymru gyfweld â phobl o gymunedau Indiaidd, Pwylaidd, Affrica-Caribî ac eraill am eu profiadau.

Mae'r astudiaeth yn dangos incwm isel, prinder amser, prinder adnoddau, hiliaeth a rhwystrau ieithyddol fel rhai o'r rhesymau pam bod llai o bobl o gefndiroedd du a lleiafrifol ethnig yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Ymhlith yr argymhellion i fynd i'r afael â'r broblem mae dod o hyd i fodelau rôl i ysbrydoli cymunedau, gwneud defnydd o rwydweithiau sydd eisoes wedi'u sefydlu a gweithio ochr yn ochr â'r rheini i greu cyfleoedd i gymunedau ethnig lleiafrifol.